Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
21 Tachwedd 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(20 munud)
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:
Mick Antoniw (Pontypridd): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Maes Awyr Caerdydd yn sgil adroddiadau bod cwmni awyrennau Flybe yn mynd i gael ei werthu?
Rhun Ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau trên yn dilyn ymddiheuriad cyhoeddus Trafnidiaeth Cymru am ddiffygion yn y gwasanaethau?
(5 munud)
NDM6876 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi Sian Gwenllian (Plaid Cymru) fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad yn lle Adam Price (Plaid Cymru).
NDM6877 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 17.3 ac 17.13(ii), yn ethol Helen Mary Jones (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
(60 munud)
NDM6862
Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru)
Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Sian Gwenllian (Arfon)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod cyllid ar gyfer addysg bellach wedi bod o dan bwysau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i doriadau cyllidebol.
2. Yn nodi bod y sector addysg bellach wedi'i osod o dan bwysau ychwanegol, yn rhannol oherwydd polisïau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â dysgu gydol oes, sgiliau a chyflogadwyedd, a gafodd eu hegluro yn y cynllun cyflogadwyedd diweddar a ddiweddarwyd gan ddatganiad ysgrifenedig ym mis Medi 2018.
3. Yn mynegi pryder bod staff mewn sefydliadau addysg bellach yn ystyried mynd ar streic dros gyflogau annigonol a phryderon ynghylch llwythi gwaith trwm.
4. Yn cynnig na ddylai fod unrhyw ostyngiad pellach o ran faint o arian a dderbynnir gan y sector addysg bellach ac y dylid cydnabod ei safle fel allwedd i gynhyrchiant, sgiliau, hyfforddiant a chyflogadwyedd yn economi Cymru.
(60 munud)
NDM6870 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Creu'r Diwylliant Cywir', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Medi 2018.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Tachwedd 2018
Dogfennau Ategol
Ymateb Comisiwn y Cynulliad (28 Medi 2018)
Ymateb Comisiwn y Cynulliad (30 Hydref 2018)
(60 munud)
NDM6871 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r ddeiseb, ‘P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid Ysgolion Gwledig’, a gasglodd 5,125 o lofnodion.
P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid Ysgolion Gwledig
(30 munud)
NDM6872 Rhianon Passmore (Islwyn)
Trafnidiaeth Cymru: y ffordd o drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd yn Islwyn.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 27 Tachwedd 2018